Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (88)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am 14:19
Gwyn Price (Islwyn) |
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am 14:27
Mick Antoniw (Pontypriidd) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma gan Lywodraeth y DU, yn cadarnhau ei bwriad i ddirwyn y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol i ben heb ymgynghori â Llywodraeth Cymru. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: y cynnydd wrth weithredu ymateb Llywodraeth Cymru i gau ffatrïoedd Remploy (30 munud) |
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Y Diweddaraf ar Twf Swyddi Cymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Diogelwch Cymunedol a Chynnydd ar Bennod 7 y Rhaglen Lywodraethu (30 munud) |
6. Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) (60 munud) NDM5063 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012. Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2012. Dogfennau Ategol
|
7. Dadl ar yr Adroddiad ar Ddinas-Ranbarthau (60 munud) NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r adroddiad am y Dinas-ranbarthau. Dogfen
Ategol http://wales.gov.uk/docs/det/publications/12076cityregionsrpten.pdf (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.
|
Voting Time |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 17 Hydref 2012